PET(4)-01-12 p7a

 

P-04-356 Galwad i’r Materion a Osodwyd yn yr Adroddiad ar Bêl-droed yng Nghymru a Gyhoeddwyd yn 2007 Gael eu Hadolygu.

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu cynnwys adroddiad 2007 y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, ‘Pêl-droed yng Nghymru – adolygiad’.

Ym mis Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru. Un o’r meysydd hyn oedd chwaraeon a hamdden. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau hyn nad oedd ar gael yn 2007 ac i adolygu’r adroddiad gwreiddiol. Mae’n rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn atebol i bobl Cymru a chynnig gwerth am arian i bobl Cymru. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a FIFA i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Prif ddeisebydd: Stuart Evans

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 10 Ionawr 2012

Nifer y deisebwyr: 96